Safleoedd Treftadaeth

Ffwrnais Dyfi Furnace Ystrad Fflur - Strata Florida

Lluniau: (chwith) – Ffwrnais Dyfi, (dde) – Ystrad Fflur

Mae safleoedd treftadaeth yn yr ucheldir yn cynnwys safleoedd megis Ystrad Fflur a Ffwrnais Ddyfi.

Mae Abaty Ystrad Fflur wedi’i lleoli yng nghanol ucheldir Ceredigion. Yn amgylchynu’r ardal hon mae llwybrau treftadaeth pwysig a ellir eu cyrchu ar droed, mewn car neu ar feic. Mae Llwybr Ystwyth ger Ystrad Fflur. Ceir hawl dramwy gyhoeddus sy’n caniatáu i ymwelwyr adael Llwybr Ystwyth a beicio neu gerdded i Bontrhydfendigaid sydd ger Abaty Ystrad Fflur. Mae PLWM yn gweithio â’i partner Cadw i wella profiad yr ymwelydd yn Ucheldir Ystrad Fflur. Bydd PLWM yn cynorthwyo i uno’r llwybrau yn yr ardal hon sydd â chysylltiadau â threftadaeth.

Gwybodaeth am Abaty Ystrad Fflur: Sefydlwyd yn gyntaf yn 1164 ar safe gerllaw, codwyd yr adeiladau presennol yn sgîl nawdd gan Yr Arglwydd Rhys (m.1197). Roedd y Sistersiaid yn Ystrad Fflur yn gefnogwyr ffyddlon i’r Tywysogion Cymreig. Dyma fan claddu traddodiadol Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mawr Cymru yn yr Oesoedd Canol. Map OS 135 SN. 831261.
 

Gwefan: Abaty Ystrad Fflur

Lleolir Ffwrnais Ddyfi ym mlaen fwyaf gogleddol Ucheldir Ceredigion ac mae gerllaw safle’r mwynglawdd a adwaenir fel Ystrad Einion. Mae PLWM yn gweithio â Cadw, ceidwaid yr heneb restredig hon i gynorthwyo i roi’r ardal a’i gemau treftadaeth ar y map, i weithio â phartneriaid twristiaeth eraill yn yr ardal yn cynnwys canolfan ymwelwyr RSPB Ynys Hir, datblygiadau Llwybr Arfordirol Ceredigion a mwy.

Mae cymaint i’w wneud gan ymwelwyr yn yr ardal hon a fydd yn cael ei hyrwyddo yn y dyfodol drwy weithio mewn partneriaeth.

Gwybodaeth am Ffwrnais: Adeiladwyd y ffwrnais yn wreiddiol tua 1755 i doddi mwyn haearn â thanwydd a gafwyd o’r coedwigoedd lleol a’i storio ar lofft yr adeilad. Yr adeg honno, byddai’r olwyn ddŵr yn pweru pâr o feginau enfawr a oedd yn cyflenwi aer wedi’i gywasgu a oedd yn hanfodol i weithredu chwythiad y ffwrnais. Byddai rhan fwyaf o’r haearn crai yn cyrraedd gefeiliau’r Canolbarth.
Mae’n debyg fod y ffwrnais ond wedi para am oddeutu 50 mlynedd cyn y cefnwyd arni. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach cafodd ei throi’n felin lifio a gosodwyd olwyn ddŵr newydd i droi’r peiriannau. Mae’r olwyn ddŵr ddiweddaraf hon wedi’i hadnewyddu ac mae i’w gweld heddiw.

Mae’r rhaeadr drws nesaf, lle mae’r Afon Einion yn disgyn, yn cwblhau’r olygfa ddarluniadwy. Efallai y byddech chi’n hoffi mentro ymhellach, i warchodfa nature RSPB Ynys-hir.
Ceir mwy o emau treftadaeth yn yr ucheldir. Ysgrifennwn fwy am y rhain yn fuan.