Safleoedd Mwyngloddio

Croeso i Gyfeiriadur Safleoedd Mwyngloddio PLWM.  Nid yw’r gwaith wedi gorffen eto, a’r nod yw rhoi ar fap nifer o safleoedd yn ucheldir Ceredigion sydd â chyfoeth o hanes a llefydd diddorol i ymweld â hwy neu ddarllen amdanynt (map Bing i ddod yn fuan).  Mae croeso i chi Ymaelodi ac ychwanegu eich lleoliad(au) eich hun.  Yr unig amod yw bod rhaid i’r mwyngloddiau fod yn ucheldir Ceredigion.

Rydym yn falch o ddarparu dolen gyswllt i Coflein ar gronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn caniat u i bobl chwilio am fwy o wybodaeth ar safleoedd dewisol, yn darparu disgrifiadau testun a ffotograffau ac yn rhestru gwybodaeth bellach yn yr archif sy’n hygyrch i’r cyhoedd. http://www.coflein.gov.uk/

 

Ystrad Einion Mine (Dolgoch Mine)
Mae Mwynglawdd Ystrad Einion wedi’i leoli rhwng Aberystwyth a Machynlleth, ychydig o bellter oddi ar y troad yn Ffwrnais i Gwm Einion, tua 3km ar hyd y ffordd. Bu’r hen fwynglawdd yn cynhyrchu rhywfaint o blwm, sinc a chopr. Fe’i...
barrell
  Bronfloyd yw’r mwynglawdd agosaf i Aberystwyth, ac fe saif nid nepell o hawl tramwy cyhoeddus, felly byddai angen i chi holi perchennog y tir ynglŷn ag ymweld â’r adfeilion.  Mae adfeilion mwynglawdd plwm Bronfloyd, yn...
Pontrhydygroes wheel
Bu i Bontrhydygroes ddatblygu yn bentref pwysig sawl blwyddyn gan ddod yn ganolbwynt i fwyngloddiau plwm Lisburne yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Mae enw’r pentref yn awgrymu y bu’r man croesi dros Afon Ystwyth ar waelod y...
The newly restored ventilation chimney at Cwmsymlog
Mae Cwmsymlog yn fwynglawdd tra hynafol. Fe’i cloddiwyd yng nghanol y 18fed ganrif a bu i Lewis Morris ei ddisgrifio fel ‘y cyfoethocaf mewn Plwm ac Arian o unrhyw un o ddominiynau Ei Fawrhydi’ (Bick 1988, 19). Dan arweinyddiaeth...
Esgair Hir Mine
Fel arfer fe gloddiwyd Esgair Hir ac Esgair Fraith gyda’i gilydd gan eu bod yn rhannu’r un wythïen. Dengys y ffigyrau cynhyrchu mai yn Esgair Fraith y cynhyrchwyd y rhan helaeth o’r copr. Daw’r cofnod cyntaf o...
Cwm Rheidol Mine
Ar ochr ddeheuol y dyffryn roedd pedwar mwynglawdd yn weithredol ym 1855 pan gawsant eu cyfuno â’r Rheidol United Mines (Prichard 1985, 5-7). Cafwyd newid mewn perchnogaeth a ffurfiwyd cwmnïau newydd, ond roedd mwyngloddio yn...
Esgair Fraith Mine
Fel arfer fe gloddiwyd Esgair Hir ac Esgair Fraith gyda’i gilydd gan eu bod yn rhannu’r un wythïen. Dengys y ffigyrau cynhyrchu mai yn Esgair Fraith y cynhyrchwyd y rhan helaeth o’r copr. Daw’r cofnod cyntaf o...
Cwmystwyth Mine
Ystyrir mai Cwm Ystwyth oedd y safle mwyngloddio pwysicaf yng Nghymru ar gyfer metelau anfferrus, ac mae’n enghraifft heb ei ail o dreftadaeth mwyngloddio Ceredigion.  Ar y safle ceir tystiolaeth o bob cyfnod pan fu gweithgaredd...
Gwaith Goch Mine (Cwm Rheidol)
Ar ochr ddeheuol y dyffryn roedd pedwar mwynglawdd yn weithredol ym 1855 pan gawsant eu cyfuno â’r Rheidol United Mines (Prichard 1985, 5-7). Cafwyd newid mewn perchnogaeth a ffurfiwyd cwmnïau newydd, ond roedd mwyngloddio yn...
Bwlch Glas Mine
Bwlchglas: Roedd tramffordd yr Hafan yn mynd ar hyd ochr ddeheuol y cymoedd ac yn mynd heibio adeiladau mwynglawdd Bwlchglas ar ei ffordd i fyny’r rhiw. Bu i’r mwynglawdd gau ym 1923. Mae olion y gweithfeydd prosesu concrit yno o hyd.
Frongoch
Un o’r mwyngloddiau mwyaf yng ngogledd Ceredigion, mae Frongoch yn fwynglawdd plwm a sinc go adnabyddus a saif ger Pontrhydygroes yng nghanolbarth Cymru. Er y bu i waith cloddio ddechrau yn Frongoch yng nghanol y 1700au, ni ddechreuwyd...
Castell Mine, Dyffryn Castell
Y cofnod cyntaf a geir o fwynglawdd Castell ger Ponterwyd yw iddo gael ei agor gan Thomas Bonsall yn 1785 er mwyn mwyngloddio sffalerit. Ymddengys ei fod wedi cau erbyn 1803. Mae’r wythïen yn rhan o system fawr o ffawtiau sydd...
Ystumtuen Mine (Penrhiw Mine)
Mae Penrhiw yn un o gyfres o fwyngloddiau hynafol, a gloddiwyd hyd ddiwedd y 19eg ganrif, ar yr ucheldir i’r gogledd o afon Rheidol – gweler hefyd Bwlchgwyn a Llwynteifi. Ar adegau fe’u cloddiwyd gyda’i gilydd ac felly ni...
Henfwlch
Roedd mwynglawdd Henfwlch yn gweithio gan fwyaf ar y cyd â mwynglawdd Hafan.  Mae’n bosib fod Henfwlch wedi dechrau gweithio cyn 1750.  Ceir cofnod o ddyddiadau ynghylch datblygiad y mwynglawdd o 1850 a bu’n gweithio ar...
Wemyss Mine with the Belgian Mill
Yn Wemyss – sy’n rhan o fwyngloddiau Frongoch – ceir adfeilion Melin Felgaidd a nodweddion eraill, a thrwy’r fan hon y deuai’r tramiau o Frongoch.  Gall y cyhoedd ei weld yn rhwydd wrth ochr y ffordd.  Fe...
Mwynglawdd Temple
Mae Temple yn fwynglawdd bach diddorol iawn mewn lleoliad ysblennydd.  Erys adfeilion dwy gist fwynau, amrywiaeth o furiau cynnal, cafn olwyn a thŷ mathru, a hollt yn y graig uwchlaw’r afon yn dangos lle’r oedd ail gafn olwyn....
Llywernog Mine (and museum)
Adwaenir y mwynglawdd yn lleol fel Gwaith Poole. Darganfuwyd y wythïen fwynol yn wreiddiol oddeutu’r flwyddyn 1742, yn ystod teyrnasiad Siôr III. Ni wyddys enwau’r ymchwilwyr gwreiddiol, ond byddai ganddynt Drwydded...
Mwynglawdd Darren Mine
Mae hen fwynglawdd ger mwynglawdd Bronfloyd ym Mhen-Bont Rhydybeddau Darren yn rhan o system ffawtiau/wythiennau Darren-Cwmsymlog.   Mae’n bosib fod y mwynglawdd hwn yn perthyn i’r cyfnod cyn-Rhufeinig, ond nid yw hyn wedi...
Pontceunant Generating Station - part of the Frongoch Mines
Yn fuan wedi i’r cwmni "Societe Anonyme Metallurgique" o Wlad Belg gymryd Mwynglawdd Frongoch drosodd, adeiladwyd Gorsaf Gynhyrchu Pontceunant ganddynt yn 1899 ar gost o £11,400.  Gwnaethant foderneiddio’r mwynglawdd...
Esgair Mwyn Mine
Lleolir mwynglawdd Esgair Mwyn ar dir uchel i’r gogledd ddwyrain o Ffair Rhos. Roedd wedi’i adael ers canrifoedd pan gafodd ei ail-ddarganfod a’i wneud yn broffidiol gan Lewis Morris ar ran y Goron yn fuan wedi iddo gael ei...
Graig Goch Mine
Mae mwynglawdd Graig Goch wedi’i leoli ger Mwynglawdd Frongoch. Tua diwedd y Rhyfel Mawr, comisiynodd Lisburne Development Syndicate Ltd raffordd o Frongoch i Graig Goch lle codwyd melin newydd er mwyn trin gwastraff o’r mwynglawdd...

Diogelwch Mae cloddfeydd yn safleoedd per
i) er mwyn eich diogelwch chi, maent yn cynnwys siafftiau dwfn iawn (mae rhai yng Ngheredigion yn 1,000 troedfedd o ran dyfnder); ni ddylech fyth mynd i mewn i unrhyw fynedfa (twnnel).

ii) er mwyn y tirfeddiannwr, mae rhywun yn berchen ar bob cloddfa, dylech geisio darganfod pwy sy'n berchen ar y tir a gofyn am eu caniatâd bob amser, mae mwyafrif y tirfeddianwyr yn meddwl llawer am dreftadaeth eu safle; os byddwch yn cerdded i gloddfa ar hyd llwybr troed cyhoeddus, gofalwch na fyddwch yn crwydro yn rhy bell ohono.

iii) er mwyn yr amgylchedd, ni darfwyd ar fwyafrif y cloddfeydd yng Ngheredigion ers dros ganrif, mewn rhai achosion, mae byd natur wedi dechrau gwella'r briwiau a achoswyd gan flynyddoedd o weithgarwch cloddio, byddwch yn ofalus na fyddwch yn tarfu ar domenni, llystyfiant sy'n tyfu, waliau ac olion adeiladau, ac yn anad dim, a fyddech gystal â pheidio defnyddio cloddfeydd fel mannau i waredu ysbwriel fel hen geir, “nwyddau gwyn”, rwbel adeiladu a gwastraff arall; neu fel mannau chwarae ar gyfer Cerbydau nas Defnyddir ar y Ffordd a Beiciau Modur.Trwy ddangos parch tuag at y safleoedd hyn, gallwn oll gydweithio i ddiogelu Treftadaeth Gloddio arbennig Ceredigion!