Mercher, 27 Ionawr, 2010
Mae Amgueddfa Ceredigion yn gweithio ar y cyd â BBC Cymru ar brosiect mawr i adrodd "Hanes y Byd" drwy ddefnyddio'r gwrthrychau y mae bodau dynol yn gadael ar eu holau.
Mercher, 27 Ionawr, 2010
Mae ucheldiroedd Ceredigion yn frith o olion diwydiant sy'n deillio yn ol canrifoedd. Bu cloddio am blwm, arian ac aur yng Nheredigion ymhell cyn i'r Rhufeiniad gyffaedd a bu mwyngloddio yn ddiwydiant pwysig yng Ngheredigion yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.
Mawrth, 19 Ionawr, 2010
Bwriedir cynnal penwythnos treftadaeth PLWM yn 2010 ar benwythnos 29 a 30 Mai 2010. Bydd y teithiau’n canolbwyntio ar ardal Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion a byddant yn ymweld â mwynfeydd gan gynnwys Frongoch, Abaty Consol, Cwm Mawr a Llwyn Malus. Bydd aelodau o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru’n arwain y teithiau.
Mawrth, 19 Ionawr, 2010
Mae’r amser wedi dod i ddarparu traciau sain ar drên stêm Cwm Rheidol o Aberystwyth i Bontarfynach. Mae angen penderfynu beth rydym am ei ddweud am y daith hyfryd hon drwy ucheldir Ceredigion, sef llwybr prydferth 11 ¾ milltir o hyd gyda saith arhosfa cyn i’r trên gyrraedd gorsaf fynyddig Pontarfynach 700 metr uwchlaw’r môr. Mae’r dreftadaeth ar hyd y llwybr yn gyfoethog. Mae’n pasio heibio i olion 14 o hen safleoedd cloddio plwm,...
Iau, 17 Rhagfyr, 2009
Mae Prosiect Animeiddio ar Fwynglawdd Ystrad Einion ar fin cael ei gynhyrchu.
Mae digwyddiad a fydd PLWM ynghlwm ag ef, sef prosiect animeiddio 3D newydd yn cymryd lle ym mis Chwefror 2010. Mae PLWM yn gweithio gyda’r Comisiwn Brenhinol i gynhyrchu animeiddiad 3D o weithfeydd mwynglawdd Ystrad Einion a fydd wedyn yn cael ei gadw yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.
Ceir manylion o’r digwyddiad isod:
Iau, 1 Hydref, 2009
Roedd dydd Sadwrn Medi 12fed yn ddiwrnod cofiadwy i Gwm Rheidol. Nid yn unig yr oedd yn un o ddiwrnodau mwyaf heulog yr haf ond dyna’r diwrnod pan ddaeth tua 150 o bobl at ei gilydd hefyd i ddathlu treftadaeth y cwm, ei dirwedd a’r bobl sy’n byw yno. Er bod pwyslais ar y gorffennol a’r diwydiant cloddio am fetel a fu mor bwysig wrth ffurfio cymuned Cwm Rheidol, casglwyd llawer o wybodaeth hefyd am fywydau pobl heddiw a’u hatgofion eu hunain.
Llun, 21 Medi, 2009
Roedd y Penwythnos Drysau Agored a gynhaliwyd yn Ffwrnais a Mwynglawdd Ystrad Einion ar 12fed a 13eg Medi yn llwyddiant ysgubol ymhlith pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd. Nid yn unig y daeth dros 120 o bobl i fynd ar y teithiau tywysedig o amgylch y Ffwrnais hanesyddol a chyn-safle mwynglawdd Ystrad Einion gerllaw, daeth pobl â thywydd da a cheisiadau am lawer mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol hefyd.
Mercher, 9 Medi, 2009
Cynhelir Penwythnos Treftadaeth Ewropeaidd Drysau Agored yng Ngheredigion, ar 12fed a 13eg Medi 09, a fydd yn golygu bod aelodau o’r cyhoedd yn gallu dod am sgyrsiau a theithiau tywysedig am ddim yn heneb gofrestredig Cadw yn Ffwrnais Dyfi, sef ffwrnais chwyth golosg sy’n dyddio o 1755 (i’r Gogledd o Aberystwyth), a’r cyn-fwynglawdd plwm gerllaw, Ystrad Einion, y mae’r ddau ohonynt yn berlau diwydiannol cudd yng Ngogledd Ceredigion. Mae PLWM yn gweithio gyda CADW i...
Gwener, 14 Awst, 2009
Nodwch 12 Medi yn eich dyddiadur: dewch i Gwm Rheidol i brofi diwrnod o ddarganfod hanesion cudd, gwrando ar straeon, hel atgofion a'u cofnodi.
Bydd math gwahanol iawn o gloddio yn digwydd yng Nghwm Rheidol ger Aberystwyth ddydd Sadwrn 12 Medi 2009. Yn lle'r plwm a'r mwynau eraill a arferai gael eu cloddio yn y cwm a'r cyffiniau, bydd pobl yn cymryd rhan mewn prosiect i gasglu a thrafod hanes a chymeriad arbennig y cwm yn seiliedig ar etifeddiaeth y mwyngloddiau a hanes lleol.
Llun, 29 Mehefin, 2009
Mae olwyn treftadaeth fwyngloddio sydd newydd ei hailadeiladu’n berffaith, ac sydd yn y ffordd orau bosibl yn “ffug”, bellach yn sefyll yn falch yn y gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, pentref ucheldirol Pontrhydygroes. Gall ymwelwyr a’r gymuned bellach weld yr olwyn ddŵr ar waith am y tro cyntaf a dathlu’r lle picnic hyfryd hwn, gyda seddau picnic a bwrdd gwybodaeth, ar y mwynglawdd yr oedd yr olwyn yn rhan ohono.