Eich Straeon

Cliciwch yma i lan-lwytho eich straeon>>

BARBARA MATTHEWS

Cynhaliwyd y cyfweliad hwn mewn siop wag yn 28 Ffordd y Môr, Aberystwyth, yn ystod arddangosfa ar y cyd rhwng Barbara Matthews, Blaengar, Amgueddfa Ceredigion, Plwm ac Amgueddfa Mwyngloddio Llywernog yn ystod yr haf 2009. Thema’r arddangosfa oedd Mwyngloddio Plwm yng Ngogledd Ceredigion.

 

Arlunydd lleol Barbara Matthews a ysbrydolwyd gan dirwedd yr ucheldir a’r dreftadaeth ddiwydiannol

Cyfweliad â Barbara Matthews

(Holwr: Natalie Moyce)

Soniwch i mi rywfaint am eich hun fel arlunydd, a pham y penderfynoch roi thema cloddio plwm ar eich gwaith.

Arteffactau sydd ar ôl uwchlaw’r ddaear -o Amgueddfa Plwm, Llywernog 09

 

Fe symudais i Drisant ger Pontarfynach tua 13 mlynedd yn ôl. Mae llawer o adfeilion yn yr ardal honno. Ro’n i’n gwybod mai hen fwynfeydd oedden nhw ac, er nad oeddwn i’n gwybod llawer amdanyn nhw, roedden nhw’n atgofus iawn. Weithiau byddwn i’n crwydro o’u hamgylch ac un diwrnod, tra ‘mod i’n cerdded gerllaw’r Felin Drin, fe gefais deimlad arswydus ac ro’n i bron â bod yn gallu clywed sŵn traed tu ôl i mi. Ro’n i’n chwilio am ‘thema’ ac fe daniodd y profiad hwn fy nychymyg ac fe ddechreuais ymchwilio ychydig i hanes yr ardal. Ro’n i’n sylweddoli bod hanes o fwyngloddio plwm yn yr ardal ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod cymaint o fwyngloddio wedi digwydd yma. Ro’n i wedi meddwl mai mwynfeydd brig oedd yma’n bennaf a doeddwn i ddim yn gwybod hyd a lled y gweithfeydd tanddaearol. Roedd yn agoriad llygad ac fe wnaeth hyn, ynghyd ag atyniad yr elfennau gweledol, gynyddu fy niddordeb. Yn weledol, mae’r adfeilion yn ymddangos yn rhamantaidd iawn, ond allai eu swyddogaeth ddim bod yn llai rhamantaidd.

Felly, mae’r rhan fwyaf o’r darluniau haniaethol hyn yn seiliedig ar fwynfeydd plwm ucheldir Ceredigion.

Ydyn, maen nhw’n seiliedig ar Felin Drin Wemyss a’r hyn sy’n weddill o Fwyngloddfa Frongoch; ar y ddau le cysylltiedig hyn yn bennaf.
 
A wnaethoch chi ymchwilio llawer i’r ddau le?

Fe wnes i rywfaint o waith ymchwil ond doeddwn i ddim am wneud gormod oherwydd byddai hynny’n ei droi’n gofnod hanesyddol bron. Fel arlunydd, fy nod oedd cofnodi fy ymateb i’r lle a’m teimladau amdano, y gwead, y pethau a oedd wedi fy nenu yn y lle cyntaf. Lle hanesydd yw gwneud gwaith ymchwil manwl. Rwy’n credu iddo fod yn beth da na wnes i adael i’r hanes dynnu fy sylw, oherwydd mae’r hanes mor ddiddorol. Mae pobl yn dod i siarad â mi am y mwynfeydd ac mae gen i ddiddordeb cyffredinol ynddyn nhw, felly dw i wedi dysgu cryn dipyn, ond fyddwn i ddim yn dweud ‘mod i wedi gwneud llwyth o waith ymchwil.

Darllenwch y cyfweliad yn llawn (Word)

Terrace Road - Exhibition

Pa fath o bobl sy’n ymddiddori yn eich gwaith? Ai diddordeb cyffredinol sydd ganddyn nhw yn eich tyb chi?

Ie, dw i’n meddwl. Weithiau rwy’n synnu bod pobl yn eu deall, hyd yn oed y darluniau mwyaf haniaethol. Roedd gen i arddangosfa yn Nhregaron ac fe ddaeth rhai pobl leol i mewn i gael golwg pan oeddwn i’n gosod y darluniau yn eu lle ac, er nad oedd unrhyw wybodaeth ar y wal, roedden nhw’n dweud “o Cwmystwyth yw hwnna, ondife?”. Er nad Cwmystwyth oedd y lle fel mae’n digwydd, roedden nhw wedi adnabod y math o adeiladau a theimlad y lle.
 
Mae’r gwaith yn eithaf llwm on’d yw e?
 
Ydy, mae’r adeiladau’n llwm ac roedd y bobl oedd yn gweithio ynddyn nhw’n byw bywydau llwm. Rwy’n teimlo bod hon yn agwedd ar hanes Cymru nad yw pobl yn gwybod llawer amdani ac mae’n bwysig rhoi gwybod amdani.
 
Ac a ydych chi’n gwneud mathau eraill o waith celf neu a ydych chi’n canolbwyntio ar hyn?
 
Dyma fy mhrif ffocws ar hyn o bryd. Rwy’n gwneud pethau eraill ond dyma brif fyrdwn fy ngwaith dros y blynyddoedd diwethaf.
 
A ydych chi’n gobeithio arddangos y gwaith am gyfnod?
 
Rwy’n parhau i estyn y thema a dweud y gwir; nid yw’r darluniau mewn trefn gronolegol yma. Rwy’n hapus i’w harddangos unrhyw le.
 
Beth yw’ch cefndir artistig?
 
Fe es i i’r Ysgol Gelf yma yn Aberystwyth. Fe ddechreuais yn 2002. Fy mreuddwyd bob amser oedd bod yn arlunydd, ond am nifer o resymau wnes i ddim dilyn fy mreuddwyd. Ro’n i’n darlunio drwy’r amser ac yn paentio ychydig ac yn mynd i ddosbarthiadau nos a’r math hynny o beth, ac yna ro’n i mewn sefyllfa lle gallwn i fynd i’r Brifysgol i astudio. Fe ges i fy ngradd yn 2005 ac ers hynny dw i wedi bod yn creu corff o waith. Erbyn hyn, rwy’n ceisio’i farchnata … o’r diwedd mae’n ymddangos bod pethau’n symud yn eu blaen …
 
A ydy’r bobl sy’n dod yma’n adnabod y tirlun… ydyn nhw’n adnabod yr ucheldir, yn gyfarwydd â’r tirluniau? Mae llawer o bobl yn gyrru heibio i’r llefydd hyn heb sylweddoli beth ydyn nhw mewn gwirionedd.
 
Ydyn, maen nhw. Dw i ddim yn meddwl bod y rhan fwyaf o’r bobl sy’n gyrru heibio i’r adfeilion hyn yn sylweddoli mai hen fwynfeydd plwm ydyn nhw. Mae’r arddangosfa hon yn seiliedig ar fwyngloddio ac yn aml mae pobl yn meddwl ei bod yn anorfod mai mwynfeydd glo ydyn nhw, yn enwedig gan fod cysylltiad mor gryf rhwng Cymru a chloddio glo.
 
Felly, ydych chi’n meddwl bod diffyg hunaniaeth gan y diwydiant mwyngloddio plwm?
 
Ydw, dw i’n meddwl bod hynny’n wir. Mae cymaint o amser wedi mynd heibio ers i’r rhan fwyaf o’r mwyngloddio ddod i ben yma, felly does gan bobl ddim cysylltiad byw ag e, dim atgof o’u rhieni neu’u cyndeidiau’n gweithio yn y mwynfeydd. Mae’r hyn sy’n weddill o’r hen fwynfeydd yn prysur ddadfeilio, gallen nhw fod yn unrhyw beth mewn gwirionedd… yn aml mae pobl yn chwilio am harddwch a golygfeydd trawiadol, yn hytrach nag ymddiddori yn yr hyn a ddigwyddodd yn y tirlun. Rwy’n credu bod unrhyw beth sy’n hoelio sylw ar yr adfeilion hyn yn beth da, ond mae’n rhaid bod yn ofalus iawn wrth grwydro o amgylch rhai o’r hen fwynfeydd oherwydd fe allan nhw fod yn eithaf peryglus.
 
A ydych chi wedi bod o dan y ddaear?
Dim ond ychydig ffordd o dan y ddaear yn Amgueddfa Llywernog (Ponterwyd). Dw i ychydig yn glawstroffobig. Dw i wedi bod yn pendroni a oedd hynny’n rhannol gyfrifol am fy niddordeb yn y mwynfeydd. Yn aml, ry’ch chi’n cael eich denu at bethau sy’n codi ofn arnoch chi.
 
Beth daniodd eich diddordeb yn wreiddiol, ai’r tirlun neu’r ffordd yr oedd pobl yn byw, neu…?
 
Rwy’n credu ei fod yn gyfuniad o’r holl bethau hyn. Mewn gwlad fel Prydain, mae’r tirlun wedi cael ei siapio gymaint gan y bobl sydd wedi byw ynddo. Ychydig dros gan mlynedd yn ôl, roedd llawer o’r bobl oedd yn byw yn yr ardal hon yn byw bywydau tebyg iawn i bobl sy’n byw yng ngwledydd y trydydd byd ‘nawr. Dim ond ychydig o genedlaethau yn ôl oedd hyn, ond dw i ddim yn meddwl bod pobl yn llwyr sylweddoli pa mor anodd oedd hi i’n cyndeidiau.
 
Mae hynny’n wir. Pan fues i ar daith dywys gyda Robert Ireland, fe gefais gryn sioc pan sylweddolais i beth oedd disgwyliad oes person cyffredin.
 
Mae’n arswydus. Roedden nhw’n gweithio mor galed, os nad oedden nhw’n marw o ganlyniad i’r gwenwyn amgylcheddol roedden nhw’n aml yn marw oherwydd eu bod yn gweithio mor galed.
Ond roedd y diwydiant mwyngloddio hefyd yn rhoi cyfle i bobl. O leiaf doedden nhw ddim ar lefel y gwerinwyr, yn dibynnu ar beth bynnag fyddai’r tywydd yn ei daflu atyn nhw bob blwyddyn, yn dibynnu ar gynhyrchu digon o fwyd i gynnal eu teuluoedd. Roedd yn gyfle i bobl ennill incwm ychydig mwy rheolaidd ac yn rhwystr rhag tlodi.
Rwy’n cofio gweld arddangosfa o ffotograffau Walker Evans o gyfnod Dirwasgiad America yng Nghanolfan y Celfyddydau. Roedd yn cynnwys delweddau o weithwyr amaethyddol gwledig a’u bythynnod a lluniau o deuluoedd mwyngloddio. Nid oedd ‘run ohonyn nhw’n gyfoethog o gwbl ac nid oedd ganddyn nhw fwy na’r hyn oedd yn angenrheidiol, ond roedd plant y mwyngloddwyr yn edrych fel pe bai ychydig bach mwy o gnawd ar eu hesgyrn. Ro’n nhw’n edrych fel pe bai ganddyn nhw ychydig mwy o gyfle mewn bywyd.
 
Dw i wedi clywed hynny hefyd. Dw i wedi clywed bod teuluoedd oedd yn byw ar hyd Cwm Rheidol ychydig yn fwy cefnog na theuluoedd amaethyddol.
 
Oedden, a byddai rhai o gapteiniaid y mwynfeydd yn hurio cartiau o’r ffermydd i gludo’r mwyn. Byddai hyn wedi rhoi ychydig o hwb i’w hincwm.
 
Yn aml, byddai pobl yn ymwneud ag amaethyddiaeth a mwyngloddio.
 
Bydden. Yn aml, fe fyddai ganddyn nhw dyddyn bach, yn enwedig o amgylch Mwyngloddfa Frongoch lle ‘roedd yr amodau gwaith mor wael fel na allai’r mwynwyr ond gweithio shifftiau byr. Roedd pobl yn gwneud beth bynnag ‘roedd rhaid iddyn nhw’i wneud i ymdopi.
 
Diolch yn fawr. Mae hi wedi bod yn sgwrs ddiddorol iawn.
 
Diolch i chi. Dw i wedi mwynhau sgwrsio gyda chi.
 
Mae PLWM yn ceisio cadw straeon am dreftadaeth ddiwydiannol yn Ucheldir Ceredigion ar gof a chadw. Os oes gennych unrhyw straeon ynghylch mwyngloddio neu luniau, lanlwythwch nhw i’r wefan hon.
Byddwn yn taro golwg ar y cynnwys cyn cyhoeddi’r stori, felly peidiwch â phoeni os na fydd y stori yn ymddangos ar y wefan yn syth. Fel arfer caiff y straeon eu cyhoeddi o fewn un diwrnod gwaith . Os bydd unrhyw broblemau, e-bostiwch y swyddog prosiect, Natalie Moyce:nataliem@ceredigion.gov.uk.

Exhibition 2009